Archive for 1150

Idris & Haf

Mehefin 1150

Rydyn ni’n canfod ein hunain mewn cae, ac yn chwarae yno am gyfnod ac yn cael hwyl yn rhedeg ar ôl ein gilydd nes i ni ddechrau diflasu a phenderfynu mynd i ymchwilio i’r mwg rydyn ni’n gallu ei weld yn codi o gae ymhellach i ffwrdd. Wrth i ni agosau rydyn ni’n gweld hen ŵr wedi plygu dros ddafad sy’n edrych yn sâl iawn.

Rydyn ni’n mynd draw i siarad efo fo, ac mae’n esbonio ei fod wedi colli pob un o’i blant pan oeddynt yn fabis ac oherwydd hyn mae’n meddwl y bydd o’i ddefaid bron fel petaen nhw yn blant a dydy o ddim eisiau eu colli nhw hefyd. Rydyn ni’n teimlo trueni mawr drosto fo a’i wraig, ac yn cytuno i’w helpu.
(more…)

Mae Flossie yn well!

18fed Mehefin 1150

Wrth i mi eistedd yno’n dal pen Fflosi ac yn siarad yn ddistaw efo hi roeddwn i’n meddwl efallai fy mod i wedi syrthio i gysgu ac wedi breuddwydio’r cyfan! Ond ychydig o funudau’n ddiweddarach daeth y plant yn ôl gyda photel a rhywbeth roeddynt yn ei alw yn chwistrell hypodermig. Roedd hwn yn ddyfais anhygoel, yn llenwi gyda meddyginiaeth wrth gael ei dynnu yn ôl ac yna roeddech chi’n gallu gwneud twll yng nghroen yr anifail efo fo er mwyn i’r ffisig fynd i’r gwaed a gwella’r anifail.

Sheep in the hafod meadow
Fyddwn i erioed wedi credu y gellid meddwl am ffordd mor glyfar o roi meddyginiaeth. I ddiolch iddyn nhw rydyn ni’n rhoi’r bwyd gorau yn ein cartref iddyn nhw, bacwn brasterog a bisgedi ceirch. Ond o edrych ar eu wynebau dydw i ddim yn siwr a wnaethon nhw fwynhau’r wledd hon gymaint ag y gwnaethom ni! Erbyn iddi nosi roedd Fflosi a’r lleill wedi adfer eu cryfder ac yn gwella’n dda.

Roeddwn i mor ddiolchgar i’r plant yna, dieithriaid a oedd wedi bod yn ddigon caredig i’m helpu i a’m annwyl ddefaid! Ai gwarchod oedden nhw? O lle roedden nhw wedi dod? Efallai na ddylwn i holi gormod ar ôl iddyn nhw fod mor garedig gyda ni?

Be sy’n bod gyda Flossie?

17fed Mehefin 1150

poorly sheep

Fe wnaethon ni ddeffro ddoe ac fe es i o amgylch y defaid yn gynnar fel arfer. Fe sylwais fod Fflosi a’r defaid eraill yn edrych braidd yn wael a doeddwn i ddim yn siwr os oedd hi’n teimlo’n drist neu a oedd hi’n wirioneddol sâl. Ar ôl brecwast o fara wedi ei wneud o farlys, ychydig o gaws o laeth mamogiaid a chawl llysiau penderfynais edrych ar Fflosi eto, ac roedd ei chyflwr wedi gwaethygu.

Fe eisteddais i yno efo fy mhen yn nwylo. Gan ein bod mor bell oddi wrth y pentref doeddwn i ddim yn gallu gofyn i neb am gyngor, ac fe fyddai’n rhy hwyr erbyn i mi ddod yn ôl beth bynnag. Rwy’n adnabod un o’r pentrefwyr a oedd wedi rhoi perlysiau i’w anifeiliaid yn y gorffennol ac roedd hynny wedi gweithio yn llwyddiannus iawn, ond doedd gen i ddim amser i fynd i ofyn iddo.

Mae fy ngwraig a minnau wedi wynebu llawer o drasiedïau yn ein bywyd, gan i ni golli tri phlentyn bach pan oeddynt yn ifanc a’r cwbl sydd gennym ni yn awr yw ein diadell. Fedrwn ni ddim eu colli nhw hefyd, neu fydd gennym ni ddim byd i’w ddefnyddio i fargeinio i brynu nwyddau eraill.

Wrth i mi eistedd yno fe edrychais i fyny a gweld bachgen a merch wedi eu gwisgo yn y dillad rhyfeddaf! Daethant draw ata’ i a buom yn sgwrsio. Fe wnaethon nhw ofyn pam fy mod i mor drist, ac fe esboniais y sefyllfa. Fe wnaethon nhw gynnig helpu, ond beth allai dau blentyn ei wneud i helpu? Yna clywais eu stori ryfeddol ac anghredadwy eu bod yn blant o’r dyfodol a bod ewythr y bachgen wedi ei hyfforddi fel meddyg anifeiliaid. Doeddwn i ddim yn medru dychmygu’r fath beth. Fe wnaethon nhw addo dychwelyd gyda ffisig i’r defaid.