Archive for 1203

Morris y Mynach

Ebrill 1203

Y tro yma rydyn ni’n glanio mewn dyffryn heddychlon ac mae’r synau o stumog wag Tesni yn mynd â ni ar drywydd arogl coginio hyfryd. Mae’r ardd rydyn ni’n cerdded i mewn iddi yn drefnus, hardd a heddyclon ac mae’r perlysiau yn llenwi’r aer ag arogleuon bendigedig.

Tra yn yr ardd rydyn ni’n clywed cerddoriaeth odidog yn dod o’r abaty. Rydyn ni’n gweld mynach yn brysur wrth ei waith ac yn cripian y tu ôl iddo yn ddistaw iawn. Mae o’n canolbwyntio gymaint ar greu ei lawysgrif fel nad ydy o’n ein clywed ni. Rydyn ni’n ei glywed yn grwgnach o dan ei wynt. (more…)

Paent lliw aur

12 Ebrill 1203

Roeddwn i’n eistedd yn yr ardd heddiw yn gweithio gyda gwahanol liwiau. Mae hi mor rhwystredigaeth gwybod faint harddach y gallai fy ngwaith i fod petai gen i baent deilen aur. Fodd bynnag, roeddwn i’n meddwl mai’r Arglwydd oedd yn profi fy amynedd pan glywais symudiadau yn y llwyni. Daeth dau ben i’r golwg, bachgen a merch! Roedd hyn yn od iawn gan ein bod ni ychydig o filltiroedd o Langollen ac yn cael ein gadael mewn heddwch gan amlaf. Roeddwn i wedi drysu! Beth oedden nhw’n ei wneud yma, a oedden nhw ar goll?

Fe wnaethon nhw esbonio eu bod yn dod o gyfnod arall! Mae hyn yn fy ffwndro ymhellach gan nad yw’n gwneud unrhyw synnwyr, ond rwy’n gwybod o’r ffasiwn maen nhw’n ei wisgo bod rhywbeth anarferol amdanyn nhw. Fe wnaethon nhw ofyn i mi pam fy mod i’n drist, ac fe esboniais am y sefyllfa gyda’r paent deilen aur. Maen nhw’n gwenu ar ei gilydd ac yn dweud y byddant yn dychwelyd gyda’r nos.

new ink!Fe ffarweliais efo nhw mewn syndod, a throi yn ôl at fy ngwaith. Doeddwn i ddim yn gallu credu’r peth! Y noson honno fe wnaethon nhw ddychwelyd efo potiau a photiau o baent o bob lliw, y gallaf eu defnyddio i orffen fy llawysgrif. Er na wnaethon nhw lwyddo cael paent deilen aur fe wnaethon nhw ddod â phaent lliw aur y gallaf ei ddefnyddio. Rydw i wrth fy modd efo’r anrheg caredig a gwnaf gofio’r cyfarfyddiad od yma drwy gydol fy oes, er na fedra i mo’i esbonio! Mae’n rhaid fod y dyfodol yn lle rhyfeddol os oes paent ar gael mor hawdd, ac sy’n cadw mor ffres yn y potiau yma!

fy mhaent deilen aur wedi darfod

05 Ebrill 1203

monk in the monastery
Yn arferol rydw i wrth fy modd efo fy mywyd fel mynach. Rydw i’n hoffi distawrwydd heddychlon Abaty Glyn y Groes. Yn unol â rheolau’r urdd Sistersaidd, mae ein abaty ni wedi ei lleoli ar ei ben ei hun, oddi wrth bentrefi eraill. Mae’n teimlo’n ddiogel. Rydym ni’n hunangynhaliol ac yn tyfu ein bwyd ein hunain yn ein gardd odidog. Rydyn ni’n cael ein dysgu i ddarllen ac ysgrifennu yn ifanc iawn gan yr ysgolheigion hŷn. Rydym ni mor ffodus i feddu ar y sgiliau yma, gan mai prin iawn yw’r bobl sy’n gallu ysgrifennu eu henw eu hunain yn y dyddiau yma!

Mae gen i ddawn arbennig i lunio llawysgrifau. Rydw i’n hoffi’r gwaith manwl a’r holl liwiau wrth iddyn nhw gymysgu a llifo yn batrymau ar y dudalen. Weithiau mae cymaint o fanylion cain ar un dudalen fel y gall gymryd misoedd o waith caled i’w chwblhau.

Dydw i ddim yn hapus heddiw ac rwy’n flin ein bod mor bellennig gan fod fy mhaent deilen aur wedi darfod, a finnau angen peth i orffen fy nhudalen bresennol. Rwy’n mynd at yr Abad ac yn dweud wrtho beth sydd arnaf ei angen. Mae’n deall, ond dywed y bydd yn rhai misoedd cyn y gall gael rhagor o gyflenwadau o baent deilen aur.

Dim ond unwaith neu ddwywaith y flwyddyn mae masnachwr teithio yn pasio heibio yma. Rhaid i mi gofio gwirio pryd mae adeg yr archeb nesaf. Mae’r Tad Geraint bob amser yn archebu llai na’r hyn sydd arnom ei angen!