Archive for 1450

Non Thomas. golchwraig, yn Nantclwyd

Gorffenhaf 1450

Gan ein bod ni’n adnabod Rhuthun yn dda iawn rydyn ni’n penderfynu ymweld â’r ardal oddeutu 1475. Rydw i weld gweld llun o Nantclwyd y Dre yn y papur newydd gyda’r erthygl yn dweud fod yr adeilad yn cael ei adfer i’w gyflwr canoloesol ysblennydd gyda chymorth grant Ewropeaidd, felly rydyn ni’n penderfynu gweld sut le oedd yno mewn gwirionedd yn y canoloesoedd. Rydyn ni’n glanio mewn cae y tu ôl i’r sgwâr ac rydyn ni’n cael ein synnu pa mor swnllyd a drewllyd yw Rhuthun o’i gymharu â’r dref bresennol. Rydyn ni’n penderfynu aros ar y sgwâr am ychydig.

Mae’n ddiwrnod marchnad ac mae’r cyfan yn ymddangos fel halibalw llwyr! Yn sydyn rydyn ni’n gweld iâr yn rhedeg nerth ei thraed ar draws y farchnad … gyda merch ifanc yn rhedeg ar ei hôl. Gan fy mod i’n eithaf cyflym rydw i’n gwneud penderfyniad sydyn i redeg ar ôl yr iâr er mwyn helpu’r eneth, a chyda math o dacl rygbi a welais i yn un o gemau’r chwe gwlad rydw i’n llwyddo i’w dal, er boddhad y ferched ifanc, Nia. (more…)

Mae’r sebon newydd yn arogli môr ffres!

02 Gorffenhaf 1450

Helynt a hanner heddiw! Fe wnaeth y moch fwyta’r sebon i gyd. Doedden ni ddim yn gallu dweud wrth y Feistres Holland, meistres y tŷ, neu mi fydden ni mewn trwbwl. Dim ond unwaith y mis mae’r dyn sy’n gwerthu’r sebon yn galw heibio. Rydym ni mewn cyfyng gyngor, fe allwn i golli fy swydd os nad yw’r dillad wedi eu golchi a’u sychu mewn pryd, ac mae’n hanfodol i mi gadw’r swydd yma gan fod fy nheulu yn dibynnu ar yr arian.

Roedden ni wrthi’n pendroni o lle y gallem ni gael rhagor … hyd yn oed yn ystyried gwneud peth o fraster y moch wnaeth achosi’r broblem yn y lle cyntaf. Yn sydyn mae Nia yn dod yn ei hôl o sgwâr y dref gyda wyneb coch, llawn cyffro. Roedd hi wedi cyfarfod dau berson ifanc.

Yr hyn ddigwyddodd oedd ei bod hi’n mynd â iâr draw at gymydog, ac fe faglodd dros fwced. Aeth yr iâr yn rhydd a rhedeg i lawr y ffordd. Roedd ychydig ohonom yn chwerthin y tu ôl i’n dwylo yn dychmygu Nia yn rhedeg ar ôl yr iâr! Beth bynnag, gwnaeth yr hogyn ei helpu hi i ddal yr iâr ac fe wnaethon nhw ddechrau sgwrsio. Yn ystod y sgwrs fe ddywedodd hi wrtho am y broblem o ddiffyg sebon, ond yna sylweddolodd faint o’r gloch oedd hi ac roedd rhaid iddi ruthro i fynd â’r iâr i Mrs Dillena Llwyd cyn cinio.

Wrth iddi adrodd ei stori ymddangosodd dau ben dros y wal. Y ddau blentyn. Roedden nhw’n bâr od iawn! Fe ddywedson nhw eu bod wedi bod yn meddwl am y sebon a’u bod yn sicr fod ganddynt ateb i’n problem. Wel, rydw i’n eithaf drwgdybus o gwacs a gweilch, felly fe wnes i eu holi yn fanylach. Fe wnaethon nhw ddechrau malu awyr am ceffyll haearn a lle o’r enw marchnad wych neu rhyw nonsens felly. Ar y pwynt yma gwnaeth Nia fy mhwnio gyda’i phenelin a dweud wrthyn nhw pa mor ddiolchgar oeddem ni ac ati. Roedd hi’n iawn wrth gwrs… doedd gennym ni ddim dewis mewn gwirionedd!

Fe wnaethon nhw ddweud wrthym ni am gau ein llygaid a chyfri i ddeg. Wnewch chi ddim credu beth ddigwyddodd nesaf! Pan wnaethon ni agor ein llygaid roedden nhw’n sefyll yno efo bariau o sebon gwyrdd ag arogl melys iawn arnynt.

Sut wnaethon nhw wneud hynny? Doedd gen i ddim amser i holi gormod o gwestiynau. Fe wnaethon ni i gyd fwrw ati i sgrwbio a gwasgu a hongian y dillad i’w sychu, ac fe wnaeth y ddau blentyn ein helpu am ychydig. Roedden nhw’n edrych wedi blino felly fe wnaeth Nia eu hanfon i’r gegin i gael pastai roedd hi wedi’i baratoi yn y bore, ac i ffwrdd â nhw.

Mae’r sebon yma’n wych! Mae’n llawer gwell na’r sebon sydd gennym ni gan amlaf, sydd wedi ei wneud o ludw a braster anifeiliaid. Mae’n gwneud y dillad mor lân ac maen nhw’n arogli môr ffres. Bydd Meistr John a Meistres Holland wrth eu bodd.