Archive for 1520

Robert Jones. Offeiriad

Hydref 1520

Mae Tesni wedi bod yn astudio ychydig am ffynhonnau sanctaidd yn yr ysgol ac rydw i’n cofio mam yn dangos llyfr o’r enw Mannau Cysegredig i mi, a oedd yn cyfeirio at y ffynhonnau hyn yn Sir Ddinbych ac un dydd Sul yn ystod yr haf fe wnaethon ni ymweld ag un yn Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch. Cawsom ginio dydd Sul yn y dafarn ac yna aethom am dro y tu ôl i Eglwys Sant Dyfnog. Roedd yn lle hudolus ond anghofiedig, y math o le lle gallai tylwyth teg fyw yn y llecyn gwyrdd wedi’i gysgodi gan goed tal. Sut le fyddai hwn ar ei anterth oedd yn fy meddwl i.

Dyma ni’n troi’r deial i tua 1520 ac yn gafael yn dynn! Fe wnaethon ni lanio mewn llwyni, a oedd braidd yn boenus, ac fe welson ni griw o bobl o bob math yn ciwio i ymdrochi yn y ffynnon. Roedd rhai yn edrych yn wael iawn. Roedd gan lawer ohonyn nhw ffyn cerdded a baglau wedi eu gwneud o ddarnau o bren a chortyn. Roedd rhai o’r cleifion yn cael eu cario gan ffrindiau a pherthnasau. Mae’n rhaid fod y bobl hyn yn credu fod y ffynnon hon yn gallu eu gwella oherwydd roeddwn i’n gallu dweud oddi wrth eu hacenion eu bod wedi teithio rhai milltiroedd i gyrraedd y fan hon.
(more…)

Fy ddyluniad newydd

21 Hydref 1520

Wnes i ddim cysgu chwinciad roeddwn i mor llawn cyffro ac roedd rhan fwyaf o’m gweddïau y noson honno yn diolch i Dduw am ei wyrth.

the new stained glass window designFe ddaethon nhw yn ôl, ond yn ddistaw y tro hwn. Roeddwn i’n falch oherwydd doeddwn i ddim eisiau codi ofn ar y pererinion a oedd yn ymdrochi yn y ffynnon. Roedd ganddynt sgrôl o’r dyluniad bron i 4 troedfedd o faint! Ac roedd yn goresgyn fy holl ddisgwyliadau, gyda’r lliwiau’n disgleirio yn haul y prynhawn. Doeddwn i ddim yn gallu diolch digon iddynt, ac roeddwn i ar bigau’r drain i fynd â’r sgrôl i’r crefftwr yn Rhuthun – byddai ganddo dasg a hanner o’i flaen!

Wna i byth anghofio fy ymwelwyr ifanc, ac rwy’n pendroni yn aml ai angylion a anfonwyd oddi fry i’m helpu i oeddynt.

ymwelwyr ifanc o’r dyfodol

Diwrnod od ond gwych heddiw! Wrth i mi gerdded o amgylch tiroedd yr eglwys yn meddwl am y ffenestr, clywais sŵn siffrwd anarferol yn y coed a gwelais gerbyd coch sgleiniog rhyfeddol ar olwynion. I ddechrau roedd arna’ i ofn ac roeddwn i’n tybio mai gwaith y diafol oedd o, ond yna clywais lais yn dweud ‘Helo’. Dyna lle roedd bachgen a merch mewn dillad lliwgar mwyaf anarferol.

Robert Jones meets Cai and TesniFe wnaethon nhw ofyn i mi pam fy mod i’n edrych mor fyfyrgar. Esboniais nad oeddwn i’n medru dod o hyd i ddylunydd ar gyfer y ffenestr. Fe ddywedson nhw y gallen nhw fy helpu. Rhaid i mi gyfaddef fy mod i’n ddrwgdybus, gan mai dim ond plant oedden nhw! Ond fe es i â nhw yn ôl i fy nghartref a rhoi bwyd iddyn nhw.

Tra roedden nhw’n bwyta fe wnaethon nhw ddechrau esbonio o lle roedden nhw wedi dod. Fe ddywedason nhw eu bod nhw o’r dyfodol! Roeddwn i wedi synnu, ond wrth i mi wrando doedd gen i ddim dewis heblaw eu credu nhw – sut arall oedd modd esbonio eu gwisgoedd a’r peiriant sgleiniog a’r sŵn?

Fe wnaethon nhw ddweud y byddent yn gallu helpu dod o hyd i ddylunwyd petaen i’n nodi sut roeddwn i’n dychmygu y dylai’r ffenestr edrych. Roedd hynny’n hawdd gan nad oeddwn i wedi meddwl am unrhyw beth arall am wythnosau… roedd rhaid iddi fod y ffenestr gwydr lliw odidocaf yng Nghymru, ac roeddwn i am iddi gyfleu Coeden Deulu Jesse. Roedden nhw’n edrych yn ddryslyd felly fe wnes i esbonio mai Coeden Deulu Jesse yw darlun o hynafiaid Iesu Grist yr holl ffordd yn ôl at Jesse. Roedden nhw’n dal i edrych yn ffwndrus, ond pan wnes i egluro mai Jesse oedd tad Dafydd a laddodd y cawr Goliath fe wnaeth eu llygaid befrio ac roedden nhw’n nodio eu pennau yn hapus. Fe wnes i gario ymlaen gyda’r disgrifiad. Byddai Jesse ar ei orwedd yn cysgu yn ei ardd yn y gwaelod a byddai coeden yn deillio ohono gyda nifer o ganghennau i gyfleu coeden deulu hynafiaid brenhinol Iechyd, gyda’r Brenin Dafydd yn dal ei delyn yn y canol. Fe ddywedson nhw y byddent yn dod yn ôl y diwrnod canlynol, wrth y ffynnon.

Ffenestr newydd

12 Hydref 1520

Mae ein ffynnon sanctaidd wedi bod yn boblogaidd iawn eleni. Mae’r hanes wedi mynd ar led ac mae pererinion yn teithio o cyn belled â Sir Benfro i wella’r clefyd crafu ac mae rhai yn dweud fod y dŵr yn gwella’r frech wen, a mudandod a byddardod hyd yn oed.ffynnon sanctaidd

Fe aeth ein blwch cyfraniadau yn drwm iawn yn sgîl cyfraniadau’r pererinion diolchgar. Pan wnaethom ni gyfri’r arian roeddwn i wedi synnu faint roeddem ni wedi’i gasglu. Nawr byddwn yn gallu gosod y ffenestr gwydr lliw rydw i wedi breuddwydio amdani yn yr eglwys. Dyluniad hardd eithriadol i weddu i ddarlun yn cyfleu croesholiad Ein Harglwydd.

Yr unig broblem yw dydw i ddim yn gwybod pwy allai ddylunio ffenestr o’r fath. Rydw i wedi clywed am bobl yn Lloegr a Ffrainc a allai wneud hyn, ond does gen i ddim modd cysylltu efo nhw neu deithio i’w gweld.