Archive for 1646

Ar ol y gwarchae

Epilog – Rhagfyr 1646

Fel ôl nodyn …. fe wnaeth y canon ein helpu i aros yn y castell am fis cyfan arall pan oedden ni’n credu fod popeth wedi dod i ben. Fodd bynnag, ar ôl pedwar mis cawsom ein trechu gan ddynion Cromwell, roedd nifer y dynion a’r canonau yn ormod i ni. Serch hynny, byddaf yn ddiolchgar hyd byth am gymorth fy ffrindiau ifanc a wnaeth gynorthwyo i newid cwrs hanes

Yr Hen Hosanau Gleision

Mehefin 1646

Er mwyn bodloni fy awydd i ymweld â rhywle mwy brawychus rydyn ni’n penderfynu ymweld â’r Cyrnol Salesbury, sy’n cynnal gwarchae ar Gastell Dinbych! Roedd Tesni yn poeni braidd fod hyn yn beth peryglus i’w wneud, ond fe wnes i lwyddo i’w argyhoeddi y gallem ni ddianc ar unrhyw adeg yn ein peiriant teithio drwy amser! Fe wnaethon ni lanio yn cowrt, ac am sŵn! Roedd y castell wrthi’n cael ei tharo gan ganonau o’r tu allan. Doeddwn i ddim mor sicr fod hwn yn benderfyniad call! Fe wnaethon ni gerdded i fyny grisiau yn ofalus ac unwaith eto cawsom ei bachu yn ddiseremoni gan filwyr a’n llusgo i’r dwnsiwn i gael ein holi! Dwi’n meddwl eu bod nhw’n amau mai ysbiwyr oeddem ni! Rydyn ni’n dweud ein stori, ac rwy’n meddwl eu bod mor flinedig yn sgîl yr ymosodiad gan y Cromweliaid fel nad ydyn nhw yn ein holi yn ormodol, ac rydyn ni’n addo cael canon arall iddyn nhw. Dydw i ddim yn meddwl eu bod yn ein credu yn llwyr, ond does ganddyn nhw ddim i’w golli o’n rhyddhau! Rydyn ni’n dianc ac yn neidio yn ôl i’r peiriant teithio drwy amser. Dydw i ddim mor awyddus i gael rhagor o anturiaethau fel yna ar frys! Fodd bynnag, rydyn ni’n teimlo fod dyletswydd arnom i ddychwelyd i gadw ein hochr ni o’r fargen.
(more…)

Canon newydd

26 Mehefin 1646

Canon

Roedden ni wrth y murfylchau heddiw pan glywais sŵn mawr yn y tŵr gorllewinol. Wrth i mi droi rydw i’n gweld fy ffrindiau ifanc yn codi canon gwych i’r castell! Prin y gallaf gredu fy llygaid, ond rwy’n hynod o ddiolchgar iddynt!

Efallai bod dynion Cromwell yn gryfach o ran niferoedd ac arfau. Ond mae gennym ni ein ffydd a’n teyrngarwch i’r Brenin. Rwy’n gwirioneddol gredu y bydd y canon yma yn ein cynorthwyo i orchfygu Cromwell.

Gobaith o’r dyfodol

25 Mehefin 1646

Mae pethau’n mynd yn galed iawn! Mae ein cyflenwadau bwyd a dŵr yn mynd yn eithaf isel felly mae popeth yn cael ei ddogni, sy’n biti gan y byddai pryd o fwyd swmpus yn helpu i godi ysbryd fy milwyr. Ond brynhawn heddiw digwyddodd rhywbeth od iawn, ond er gwell, gobeithio!

Roeddwn i’n poeni sut roeddem ni’n mynd i barhau i amddiffyn ein hunain yn erbyn y gynnau’n tanio heddiw. Mae ein galluoedd tanio ni yn gyfyngedig iawn. Yr hyn sydd ei angen arnaf yw canon i ddechrau saethu at y twpsod lawr fan yna! Ac yn sydyn daeth fflach fel mellten.

Y peth cyntaf a ddaeth i’m meddwl oedd bod ein gelynion wedi datblygu arfau newydd, ond er syndod i mi daeth dau berson ifanc i fyny grisiau tŵr y gorllewin! Sut ar y ddaear wnaethon nhw ddod i mewn i’r castell? Mae’n rhaid bod twnel cyfrinachol nad ydw i’n gwybod amdano (nodyn i fi fy hun: chwilio am dwnelau cudd).

captured by old blue stockingWel, fe aethom ni â nhw i’r dwnsiwn i’w holi. Maen nhw’n dweud wrthyf fi eu bod wedi dod o’r dyfodol! Roeddwn i’n meddwl fy mod i wedi clywed popeth, ond pa ddewiniaeth sy’n gyfrifol am hyn? Maen nhw’n dweud, os gwnaf i eu rhyddhau, byddant yn gallu cael canon arall i mi. Sut fedr hyn fod yn wir? Ond rydyn ni mewn sefyllfa mor ddybryd fel bod fy nghynghorwyr yn dweud wrthyf nad oes gennym ddim i’w golli drwy eu rhyddhau a gweld a yw eu hud yn gweithio.

Gwarchae ar Gastell Dinbych

16 Mehefin 1646

seige of denbigh castle

Rydym ni wedi treulio tri mis mewn gwarchae ar Gastell Dinbych yn erbyn ymosodiad Cromwellaidd. Maen nhw wedi bod yn taro waliau fy nghastell gyda magnelau am ddyddiau rwan. Wel, fe gawn nhw ddal ati, dydyn ni ddim yn bwriadu rhoi’r ffidil yn y to! Mae’r castell yma wedi sefyll am 400 mlynedd ac ar ôl fy ngwaith trwsio i fe said am 400 mlynedd arall!

Fe wnes i orffen atgyweirio Castell Dinbych ychydig o amser yn ôl ar ran Ei Fawrhydi, Brenin Siarl I. Rydym ni ynghanol rhyfel cartref i atal Oliver Cromwell rhag dwyn pŵer y Brenin a’i roi i’r bobl gyffredin. Maen nhw’n ei alw yn ddemocratiaeth! Hy! Syniad hurt!

Beth bynnag, bydd y castell yn chwarae rhan allweddol yn ein hymgyrch i stopio’r seneddwyr yma rhag cymryd drosodd. Fe wnes i wahodd y Brenin Siarl draw yr hydref diwethaf i weld ôl fy llafur. Roedd yn hen bryd iddo ymweld â Chymru. Ac i fod yn onest roeddwn i eisiau cael gair gyda fo ynghylch ei strategaeth. Cafodd ddwyawr o’m siarad plaen enwog.

Efallai fy mod i’n hen ddyn ond rydw i wedi cael digon o brofiad ac rwy’n gwybod un neu ddau o bethau. Yn ddyn ifanc roeddwn i’n byw bywyd cyffrous ar y môr. Ond pan wnes i ddychwelyd o’m teithiau canfyddais fod ystadau fy nheulu wedi dirywio ac mewn dyled. Ers hynny rydw i wedi gweithio’n galed am dri deg mlynedd i’w adfer i grandrwydd fy hynafiaid.

Ac rwy’n gwrthod gadael i’r Seneddwyr yna gael gafael ar fy ngwaith caled!