fy mhaent deilen aur wedi darfod

05 Ebrill 1203

monk in the monastery
Yn arferol rydw i wrth fy modd efo fy mywyd fel mynach. Rydw i’n hoffi distawrwydd heddychlon Abaty Glyn y Groes. Yn unol â rheolau’r urdd Sistersaidd, mae ein abaty ni wedi ei lleoli ar ei ben ei hun, oddi wrth bentrefi eraill. Mae’n teimlo’n ddiogel. Rydym ni’n hunangynhaliol ac yn tyfu ein bwyd ein hunain yn ein gardd odidog. Rydyn ni’n cael ein dysgu i ddarllen ac ysgrifennu yn ifanc iawn gan yr ysgolheigion hŷn. Rydym ni mor ffodus i feddu ar y sgiliau yma, gan mai prin iawn yw’r bobl sy’n gallu ysgrifennu eu henw eu hunain yn y dyddiau yma!

Mae gen i ddawn arbennig i lunio llawysgrifau. Rydw i’n hoffi’r gwaith manwl a’r holl liwiau wrth iddyn nhw gymysgu a llifo yn batrymau ar y dudalen. Weithiau mae cymaint o fanylion cain ar un dudalen fel y gall gymryd misoedd o waith caled i’w chwblhau.

Dydw i ddim yn hapus heddiw ac rwy’n flin ein bod mor bellennig gan fod fy mhaent deilen aur wedi darfod, a finnau angen peth i orffen fy nhudalen bresennol. Rwy’n mynd at yr Abad ac yn dweud wrtho beth sydd arnaf ei angen. Mae’n deall, ond dywed y bydd yn rhai misoedd cyn y gall gael rhagor o gyflenwadau o baent deilen aur.

Dim ond unwaith neu ddwywaith y flwyddyn mae masnachwr teithio yn pasio heibio yma. Rhaid i mi gofio gwirio pryd mae adeg yr archeb nesaf. Mae’r Tad Geraint bob amser yn archebu llai na’r hyn sydd arnom ei angen!