Blog Entries by Time Travellers

Yr Hen Hosanau Gleision

Mehefin 1646

Er mwyn bodloni fy awydd i ymweld â rhywle mwy brawychus rydyn ni’n penderfynu ymweld â’r Cyrnol Salesbury, sy’n cynnal gwarchae ar Gastell Dinbych! Roedd Tesni yn poeni braidd fod hyn yn beth peryglus i’w wneud, ond fe wnes i lwyddo i’w argyhoeddi y gallem ni ddianc ar unrhyw adeg yn ein peiriant teithio drwy amser! Fe wnaethon ni lanio yn cowrt, ac am sŵn! Roedd y castell wrthi’n cael ei tharo gan ganonau o’r tu allan. Doeddwn i ddim mor sicr fod hwn yn benderfyniad call! Fe wnaethon ni gerdded i fyny grisiau yn ofalus ac unwaith eto cawsom ei bachu yn ddiseremoni gan filwyr a’n llusgo i’r dwnsiwn i gael ein holi! Dwi’n meddwl eu bod nhw’n amau mai ysbiwyr oeddem ni! Rydyn ni’n dweud ein stori, ac rwy’n meddwl eu bod mor flinedig yn sgîl yr ymosodiad gan y Cromweliaid fel nad ydyn nhw yn ein holi yn ormodol, ac rydyn ni’n addo cael canon arall iddyn nhw. Dydw i ddim yn meddwl eu bod yn ein credu yn llwyr, ond does ganddyn nhw ddim i’w golli o’n rhyddhau! Rydyn ni’n dianc ac yn neidio yn ôl i’r peiriant teithio drwy amser. Dydw i ddim mor awyddus i gael rhagor o anturiaethau fel yna ar frys! Fodd bynnag, rydyn ni’n teimlo fod dyletswydd arnom i ddychwelyd i gadw ein hochr ni o’r fargen.
(more…)

Yr Esgob William Morgan

Mawrth 1588

Roeddwn i yn parhau i fod eisiau ymweld ag Armada’r Sbaenwyr, ond rwy’n meddwl fod Tesni wedi bod yn symud y deialau gan nad oedd hi’n credu fod hynny’n ddiogel. Rydyn ni’n mynd yn ôl i’r flwyddyn honno, oddeutu 1588, ond yn glanio mewn lle llawer distawach! Llanelwy i fod yn fanwl gywir. Rydyn ni’n gwybod mai dyma’r flwyddyn y gwnaeth yr Esgob William Morgan gyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg ac roedden ni’n awyddus i gwrdd â’r Cymro hanesyddol hwn!

Rydyn ni’n canfod ein hunain y tu allan i lyfrgell ac mae Seren y gath yn gwibio allan o’r peiriant teithio drwy amser yn sydyn! Mae’n rhaid ei bod hi wedi sleifio i mewn eto! Mae hi’n gath ddrygionus! I ffwrdd â hi drwy ddrws cilagored! Rydyn ni’n ei dilyn hi i weld pen ei chynffon yn diflannu rownd y gornel ar ben y grisiau, a does dim dewis heblaw ei dilyn hi! Rydyn ni’n gallu clywed rhywun yn siarad dan ei wynt y tu ôl i’r drws, ac yn gweld dyn yn brysur yn gweithio ar rai papurau. Yn sydyn mae Seren yn neidio ar gefn ei gadair ac mae’n cael braw!

(more…)

Catrin o Ferain

Chwefror 1570

Problem arall efo’r deial ac rydyn ni’n glanio rhywle yng ngefn gwlad.

Rydyn ni’n sylwi ar dŷ crand wedi ei adeiladu o frics gerllaw, sy’n amlwg yn perthyn i rywun pwysig iawn. Rydyn ni’n penderfynu edrych yn fwy manwl. Rydyn ni’n syllu drwy un o’r ffenestri ac yn gweld llawer o blant yn rhedeg o gwmpas ystafell. Mae’n edrych fel parti, ond dydyn nhw ddim i’w gweld yn cael llawer o hwyl! Mae’r rhai ieuengaf yn edrych yn bwdlyd, ac mae rhai yn crïo. Ynghanol hyn i gyd mae dynes mewn ffrog a phenwisg ddu sy’n edrych yn flinderus iawn.
(more…)

Robert Jones. Offeiriad

Hydref 1520

Mae Tesni wedi bod yn astudio ychydig am ffynhonnau sanctaidd yn yr ysgol ac rydw i’n cofio mam yn dangos llyfr o’r enw Mannau Cysegredig i mi, a oedd yn cyfeirio at y ffynhonnau hyn yn Sir Ddinbych ac un dydd Sul yn ystod yr haf fe wnaethon ni ymweld ag un yn Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch. Cawsom ginio dydd Sul yn y dafarn ac yna aethom am dro y tu ôl i Eglwys Sant Dyfnog. Roedd yn lle hudolus ond anghofiedig, y math o le lle gallai tylwyth teg fyw yn y llecyn gwyrdd wedi’i gysgodi gan goed tal. Sut le fyddai hwn ar ei anterth oedd yn fy meddwl i.

Dyma ni’n troi’r deial i tua 1520 ac yn gafael yn dynn! Fe wnaethon ni lanio mewn llwyni, a oedd braidd yn boenus, ac fe welson ni griw o bobl o bob math yn ciwio i ymdrochi yn y ffynnon. Roedd rhai yn edrych yn wael iawn. Roedd gan lawer ohonyn nhw ffyn cerdded a baglau wedi eu gwneud o ddarnau o bren a chortyn. Roedd rhai o’r cleifion yn cael eu cario gan ffrindiau a pherthnasau. Mae’n rhaid fod y bobl hyn yn credu fod y ffynnon hon yn gallu eu gwella oherwydd roeddwn i’n gallu dweud oddi wrth eu hacenion eu bod wedi teithio rhai milltiroedd i gyrraedd y fan hon.
(more…)

Non Thomas. golchwraig, yn Nantclwyd

Gorffenhaf 1450

Gan ein bod ni’n adnabod Rhuthun yn dda iawn rydyn ni’n penderfynu ymweld â’r ardal oddeutu 1475. Rydw i weld gweld llun o Nantclwyd y Dre yn y papur newydd gyda’r erthygl yn dweud fod yr adeilad yn cael ei adfer i’w gyflwr canoloesol ysblennydd gyda chymorth grant Ewropeaidd, felly rydyn ni’n penderfynu gweld sut le oedd yno mewn gwirionedd yn y canoloesoedd. Rydyn ni’n glanio mewn cae y tu ôl i’r sgwâr ac rydyn ni’n cael ein synnu pa mor swnllyd a drewllyd yw Rhuthun o’i gymharu â’r dref bresennol. Rydyn ni’n penderfynu aros ar y sgwâr am ychydig.

Mae’n ddiwrnod marchnad ac mae’r cyfan yn ymddangos fel halibalw llwyr! Yn sydyn rydyn ni’n gweld iâr yn rhedeg nerth ei thraed ar draws y farchnad … gyda merch ifanc yn rhedeg ar ei hôl. Gan fy mod i’n eithaf cyflym rydw i’n gwneud penderfyniad sydyn i redeg ar ôl yr iâr er mwyn helpu’r eneth, a chyda math o dacl rygbi a welais i yn un o gemau’r chwe gwlad rydw i’n llwyddo i’w dal, er boddhad y ferched ifanc, Nia. (more…)

Owain Glyndwr

Medi 1400

Rydw i’n cael fy ffordd fy hun o’r diwedd ac mae Tesni yn penderfynu efallai ei bod yn well peidio ag ymyrryd mewn hanes ac yn rhoi’r gorau i’r syniad o fynd yn ôl i Ddinas Bran. Rydw i’n llawn cyffro am fy mod i wedi gweld Owain a’i fyddin yn paratoi i frwydro yn erbyn yr Arglwydd de Grey. Mae ein brwdfrydedd yn gwneud argraff ar Owain ac mae o’n caniatáu i ni gario’r faner a’u harwain i’r frwydr fel eu masgotiaid, cyn belled â’n bod ni’n addo diflannu cyn i’r brwydro ddechrau go iawn!

Owain Glyndwr

Iolo Goch

Awst 1370

Mae Tesni yn awyddus i fynd yn ôl i Dinas Bran i’w rhybuddio ac i weld a allwn ni atal tynged y castell drwy eu rhybuddio am gynlluniau’r Saeson i ymosod ar y castell. Tra’n bod ni’n ceisio mynd yn ôl rydyn ni’n ffraeo gan fy mod i yn benderfynol o fynd yn ôl i 1400 i weld fy arwr, Owain Glyndwr. Rydyn ni’n ymladd uwchben y deial amser ac yn mynd yn ôl i 1370… lle rydyn ni’n gweld cyfarfod rhwng y bardd Iolo Goch a masnachwr. (more…)

Tywysog Gruffudd ap Madog

Mai 1260

Y tro hwn rydyn ni’n gosod y peiriant i ymweld â chastell Dinas Bran gan ein bod wedi astudio’r ardal yn yr ysgol ac rydyn ni’n awyddus i weld y lle yn ystod ei ddyddiau euraidd. Rydyn ni wedi drysu rhywfaint gyda’r dyddiadau ac yn mynd yn ôl i’r adeg pan oedd y castell wrthi’n cael ei adeiladu. Rydyn ni’n gorfod cuddio ein cerbyd teithio drwy amser ac yn treulio’r noson yn nhref Llangollen. Mae mor wahanol i’r dref rydyn ni’n ei hadnabod yn awr. Does dim ffordd iawn, a dim ond adeiladau blêr iawn. Fedra i ddim credu nad yw fy hoff siop hufen ia yma! Yn y diwedd rydyn ni’n treulio noson anghyfforddus iawn mewn sgubor wair! Mae milwyr yn ein deffro yn y bore! Unwaith eto rydyn ni’n cael ein dal ac yn cael ei cludo i’r gwersyl i gael ein holi – mae hyn yn dechrau dod yn rhan o’r drefn! Maen nhw’n meddwl mai gwrachod ydyn ni, ond rydyn ni’n llwyddo i’w perswadio ein bod ni’n dda nid yn ddrwg ac os gwnawn nhw ein rhyddhau ni y gallwn ni eu helpu mewn rhyw fodd. Tra roedden ni wedi ein clymu’n gaeth fe glywson ni rai o’r milwr yn sgwrsio – yn dweud nad oes gan Gruffudd ddigon o gerrig ar gopa’r bryn serth, serth, i orffen ei gastell. (more…)

Morris y Mynach

Ebrill 1203

Y tro yma rydyn ni’n glanio mewn dyffryn heddychlon ac mae’r synau o stumog wag Tesni yn mynd â ni ar drywydd arogl coginio hyfryd. Mae’r ardd rydyn ni’n cerdded i mewn iddi yn drefnus, hardd a heddyclon ac mae’r perlysiau yn llenwi’r aer ag arogleuon bendigedig.

Tra yn yr ardd rydyn ni’n clywed cerddoriaeth odidog yn dod o’r abaty. Rydyn ni’n gweld mynach yn brysur wrth ei waith ac yn cripian y tu ôl iddo yn ddistaw iawn. Mae o’n canolbwyntio gymaint ar greu ei lawysgrif fel nad ydy o’n ein clywed ni. Rydyn ni’n ei glywed yn grwgnach o dan ei wynt. (more…)

Idris & Haf

Mehefin 1150

Rydyn ni’n canfod ein hunain mewn cae, ac yn chwarae yno am gyfnod ac yn cael hwyl yn rhedeg ar ôl ein gilydd nes i ni ddechrau diflasu a phenderfynu mynd i ymchwilio i’r mwg rydyn ni’n gallu ei weld yn codi o gae ymhellach i ffwrdd. Wrth i ni agosau rydyn ni’n gweld hen ŵr wedi plygu dros ddafad sy’n edrych yn sâl iawn.

Rydyn ni’n mynd draw i siarad efo fo, ac mae’n esbonio ei fod wedi colli pob un o’i blant pan oeddynt yn fabis ac oherwydd hyn mae’n meddwl y bydd o’i ddefaid bron fel petaen nhw yn blant a dydy o ddim eisiau eu colli nhw hefyd. Rydyn ni’n teimlo trueni mawr drosto fo a’i wraig, ac yn cytuno i’w helpu.
(more…)

Robert of Rhuddlan

Tachwedd 1070

Ar fy ngwir, dyma’r tro cyntaf i ni deithio drwy amser – ac rydyn ni mewn coedwig, lle ydym ni?? Rydym ni’n neidio o’r cerbyd ac fe allwn ni glywed sŵn adeiladu yn dod o wagle wedi’i glirio yn eithaf pell i ffwrdd ac rydyn ni’n penderfynu ymchwilio. Rydyn ni’n edrych drwy’r coed at lle daw’r sŵn, ac yn sydyn mae llaw fawr milwr yn gafael ynom ni o’r tu ôl.

Rydyn ni’n cael ein llusgo drwy’r coed ac yn cael ein taflu yn ddiseremoni i mewn i babell. Mae’r ddau ohonom ni yn teimlo’n ofnus iawn. Rydyn ni’n treulio ychydig o oriau anghyfforddus ar lawr oer a llaith ac yna’n sydyn rydyn ni’n cael ein galw ac yn cael ein cludo i wersyll Robert o Rhuddlan i gael ein holi. Mae o am i ni ddangos triciau hud iddo gan eu bod wedi dod o hyd i’n cerbyd teithio drwy amser (rwy’n gobeithio na wnawn nhw ei ddifrodi neu mi fyddwn ni’n cael ei dal yma am byth!!)

(more…)