Idris & Haf

Mehefin 1150

Rydyn ni’n canfod ein hunain mewn cae, ac yn chwarae yno am gyfnod ac yn cael hwyl yn rhedeg ar ôl ein gilydd nes i ni ddechrau diflasu a phenderfynu mynd i ymchwilio i’r mwg rydyn ni’n gallu ei weld yn codi o gae ymhellach i ffwrdd. Wrth i ni agosau rydyn ni’n gweld hen ŵr wedi plygu dros ddafad sy’n edrych yn sâl iawn.

Rydyn ni’n mynd draw i siarad efo fo, ac mae’n esbonio ei fod wedi colli pob un o’i blant pan oeddynt yn fabis ac oherwydd hyn mae’n meddwl y bydd o’i ddefaid bron fel petaen nhw yn blant a dydy o ddim eisiau eu colli nhw hefyd. Rydyn ni’n teimlo trueni mawr drosto fo a’i wraig, ac yn cytuno i’w helpu.

Sheep in the hafod

Rydyn ni’n mynd yn ôl i’r dyfodol i nôl meddyginiaeth arbennig i ddefaid gan fy ewyrth sy’n filfeddyg yn y Bala. Ar ôl dychwelyd gyda’r feddyginiaeth a chwistrell rydyn ni’n dangos i Idris sut i roi’r pigiad, ac mae’n cael ei synnu. Mae o a’i wraig yn garedig iawn efo ni ac yn rhoi pryd o fisgedi ceirch a darn o facwn brasterog i ni, er eu bod yn dlawd iawn eu hunain, er mwyn diolch i ni am eu cynorthwyo gyda’u defaid.

Rydyn ni’n ceisio cuddio’r ffaith fod y bwyd yn blasu’n afiach i ni!