Morris y Mynach

Ebrill 1203

Y tro yma rydyn ni’n glanio mewn dyffryn heddychlon ac mae’r synau o stumog wag Tesni yn mynd â ni ar drywydd arogl coginio hyfryd. Mae’r ardd rydyn ni’n cerdded i mewn iddi yn drefnus, hardd a heddyclon ac mae’r perlysiau yn llenwi’r aer ag arogleuon bendigedig.

Tra yn yr ardd rydyn ni’n clywed cerddoriaeth odidog yn dod o’r abaty. Rydyn ni’n gweld mynach yn brysur wrth ei waith ac yn cripian y tu ôl iddo yn ddistaw iawn. Mae o’n canolbwyntio gymaint ar greu ei lawysgrif fel nad ydy o’n ein clywed ni. Rydyn ni’n ei glywed yn grwgnach o dan ei wynt.

Moris the Monk

Mae’n cael ei synnu gan ein ymddangosiad ni, ac mae’n edrych yn ddryslyd ac ychydig yn ofnus. Ar ôl iddo roi’r gorau i gynhyrfu (sy’n cymryd peth amser) mae’n esbonio fod ei baent deilen aur, y mae’n ei ddefnyddio i addurno ei lawysgrifau, wedi darfod. Rydyn ni’n penderfynu ei gynorthwyo ac yn mynd yn ôl i’r dyfodol i nôl paent sy’n weddill o’i wahanol ddyfeisiadau o garej Taid.

Rydyn ni’n mynd â’r holl botiau paent fedrwn ni ddod o hyd ohonyn nhw iddo fo, ac mae o’n synnu at y gwahanol liwiau a gweadeddau. Wnaethon ni ddim llwyddo i gael paent deilen aur iddo, ond roedd yn falch iawn gyda’r paent y gwnaethom ni ddod o hyd iddo.