Robert Jones. Offeiriad

Hydref 1520

Mae Tesni wedi bod yn astudio ychydig am ffynhonnau sanctaidd yn yr ysgol ac rydw i’n cofio mam yn dangos llyfr o’r enw Mannau Cysegredig i mi, a oedd yn cyfeirio at y ffynhonnau hyn yn Sir Ddinbych ac un dydd Sul yn ystod yr haf fe wnaethon ni ymweld ag un yn Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch. Cawsom ginio dydd Sul yn y dafarn ac yna aethom am dro y tu ôl i Eglwys Sant Dyfnog. Roedd yn lle hudolus ond anghofiedig, y math o le lle gallai tylwyth teg fyw yn y llecyn gwyrdd wedi’i gysgodi gan goed tal. Sut le fyddai hwn ar ei anterth oedd yn fy meddwl i.

Dyma ni’n troi’r deial i tua 1520 ac yn gafael yn dynn! Fe wnaethon ni lanio mewn llwyni, a oedd braidd yn boenus, ac fe welson ni griw o bobl o bob math yn ciwio i ymdrochi yn y ffynnon. Roedd rhai yn edrych yn wael iawn. Roedd gan lawer ohonyn nhw ffyn cerdded a baglau wedi eu gwneud o ddarnau o bren a chortyn. Roedd rhai o’r cleifion yn cael eu cario gan ffrindiau a pherthnasau. Mae’n rhaid fod y bobl hyn yn credu fod y ffynnon hon yn gallu eu gwella oherwydd roeddwn i’n gallu dweud oddi wrth eu hacenion eu bod wedi teithio rhai milltiroedd i gyrraedd y fan hon.

Robert Jones

Yn cysgodi dan goeden roedd offeiriad caredig yr olwg yn dal blwch lle gallai pobl roi cyfraniad am ddefnyddio’r ffynnon, os oedd ganddynt unrhyw arian i’w sbario. Roedd y rhan fwyaf yn dlawd iawn, ond bob hyn a hyn roedd rhywun yn taflu darn o arian i mewn i’r blwch. Yn sydyn edrychodd yr offeiriad draw atom ni a dal fy llygad. Gwenodd a daeth draw at lle roeddem ni’n dal i gwrcwd y tu ôl i’r llwyni. Cyflwynodd ei hun fel Robert Jones ac roedd yn edrych yn llawn dryswch wrth iddo sylwi ar ein cerbyd teithio drwy amser y tu ôl i ni, ond doedd o ddim yn ymddangos yn ofnus. Estynnodd wahoddiad i ni fynd gyda fo i’w fwthyn am de, ac fe wnaethon ni ddechrau sgwrsio. Roedd o’n foi cyfeillgar iawn ac roedd i’w weld yn ddoeth iawn, ac yn hawdd siarad efo fo.

Dywedodd wrthym am ei ddymuniad i greu ffenestr gwydr lliw godidog er anrhydedd i Sant Dyfnog. Roedd yn gwybod am grefftwr lleol i wneud y gwaith, ond ni wyddai am unrhyw un o fewn pellter teithio i’r ardal a allai ddylunio ffenestr i gyfleu ei weledigaeth.

Cafodd Tesni syniad gwych yn sydyn! Beth am ddychwelyd i’r dyfodol, tynnu llun o’r ffenestr Jesse yn Eglwys Sant Dyfnog yr oeddem ni’n gwybod ei bod yn bodoli eisoes, a mynd â’r llun i’r argraffwyr i gael ei fwyhau. Fe ddywedson ni, ‘Gadewch y cyfan hefo ni!’ wrth Robert Jones ac i ffwrdd â ni yn ôl i’r dyfodol!
Gwnaeth cwmni argraffu lleol yn Rhuthun ein cynorthwyo i fwyhau’r llun i faint dros bedair troedfedd. Roedd yn edrych yn wych. Ar ôl cysgu fe wnaethon ni ddychwelyd yn llawn cyffro y diwrnod canlynol i ddangos y dyluniad i Robert Jones.

Roedd o wrth ei fodd efo’r dyluniad, ac fe wnaeth ddiolch i ni a’n bendithio hanner dwsin o weithiau, a rhoi rhagor o gacen i ni!