Robert of Rhuddlan

Tachwedd 1070

Ar fy ngwir, dyma’r tro cyntaf i ni deithio drwy amser – ac rydyn ni mewn coedwig, lle ydym ni?? Rydym ni’n neidio o’r cerbyd ac fe allwn ni glywed sŵn adeiladu yn dod o wagle wedi’i glirio yn eithaf pell i ffwrdd ac rydyn ni’n penderfynu ymchwilio. Rydyn ni’n edrych drwy’r coed at lle daw’r sŵn, ac yn sydyn mae llaw fawr milwr yn gafael ynom ni o’r tu ôl.

Rydyn ni’n cael ein llusgo drwy’r coed ac yn cael ein taflu yn ddiseremoni i mewn i babell. Mae’r ddau ohonom ni yn teimlo’n ofnus iawn. Rydyn ni’n treulio ychydig o oriau anghyfforddus ar lawr oer a llaith ac yna’n sydyn rydyn ni’n cael ein galw ac yn cael ein cludo i wersyll Robert o Rhuddlan i gael ein holi. Mae o am i ni ddangos triciau hud iddo gan eu bod wedi dod o hyd i’n cerbyd teithio drwy amser (rwy’n gobeithio na wnawn nhw ei ddifrodi neu mi fyddwn ni’n cael ei dal yma am byth!!)


Rydym ni’n taro bargen i’w helpu i ddod o hyd i rai caethweision. Rydyn ni’n torri i mewn i garchar ac yn gofyn i’r carcharorion a fyddai’n well ganddyn nhw fod yn yr awyr agored yn cynorthwyo i adeiladu castellu yn hytrach nag yn y carchar, ac mae rhai ohonynt yn gwneud y mwyaf o’r cyfle. Rydyn ni’n gofyn iddyn nhw a oes ganddyn nhw unrhyw deulu a fyddai’n gwerthfawrogi cymorth. Pan fo Robert yn ein talu mewn darnau aur rydyn ni’n gwneud yn siwr fod teuluoedd y carcharorion yn cael rhai darnau aur yr un.

Robert of Rhuddlan's Slaves