ymwelwyr ifanc o’r dyfodol

Diwrnod od ond gwych heddiw! Wrth i mi gerdded o amgylch tiroedd yr eglwys yn meddwl am y ffenestr, clywais sŵn siffrwd anarferol yn y coed a gwelais gerbyd coch sgleiniog rhyfeddol ar olwynion. I ddechrau roedd arna’ i ofn ac roeddwn i’n tybio mai gwaith y diafol oedd o, ond yna clywais lais yn dweud ‘Helo’. Dyna lle roedd bachgen a merch mewn dillad lliwgar mwyaf anarferol.

Robert Jones meets Cai and TesniFe wnaethon nhw ofyn i mi pam fy mod i’n edrych mor fyfyrgar. Esboniais nad oeddwn i’n medru dod o hyd i ddylunydd ar gyfer y ffenestr. Fe ddywedson nhw y gallen nhw fy helpu. Rhaid i mi gyfaddef fy mod i’n ddrwgdybus, gan mai dim ond plant oedden nhw! Ond fe es i â nhw yn ôl i fy nghartref a rhoi bwyd iddyn nhw.

Tra roedden nhw’n bwyta fe wnaethon nhw ddechrau esbonio o lle roedden nhw wedi dod. Fe ddywedason nhw eu bod nhw o’r dyfodol! Roeddwn i wedi synnu, ond wrth i mi wrando doedd gen i ddim dewis heblaw eu credu nhw – sut arall oedd modd esbonio eu gwisgoedd a’r peiriant sgleiniog a’r sŵn?

Fe wnaethon nhw ddweud y byddent yn gallu helpu dod o hyd i ddylunwyd petaen i’n nodi sut roeddwn i’n dychmygu y dylai’r ffenestr edrych. Roedd hynny’n hawdd gan nad oeddwn i wedi meddwl am unrhyw beth arall am wythnosau… roedd rhaid iddi fod y ffenestr gwydr lliw odidocaf yng Nghymru, ac roeddwn i am iddi gyfleu Coeden Deulu Jesse. Roedden nhw’n edrych yn ddryslyd felly fe wnes i esbonio mai Coeden Deulu Jesse yw darlun o hynafiaid Iesu Grist yr holl ffordd yn ôl at Jesse. Roedden nhw’n dal i edrych yn ffwndrus, ond pan wnes i egluro mai Jesse oedd tad Dafydd a laddodd y cawr Goliath fe wnaeth eu llygaid befrio ac roedden nhw’n nodio eu pennau yn hapus. Fe wnes i gario ymlaen gyda’r disgrifiad. Byddai Jesse ar ei orwedd yn cysgu yn ei ardd yn y gwaelod a byddai coeden yn deillio ohono gyda nifer o ganghennau i gyfleu coeden deulu hynafiaid brenhinol Iechyd, gyda’r Brenin Dafydd yn dal ei delyn yn y canol. Fe ddywedson nhw y byddent yn dod yn ôl y diwrnod canlynol, wrth y ffynnon.